Llygaid
Mae’r gair ‘Llygaid' yn teimlo fel gwaredu llysnafedd oddi-ar fy llaw ac yn gysylltiedig â lliwiau glas/wyrdd. Roeddwn am adlewyrchu hyn yn y deunyddiau yr oeddwn am eu defnyddio. Ystyriais ddefnyddio resin i wneud iddo edrych yn wlyb. Roeddwn angen i’r darn fy atgoffa o ymdeimlad meddal, gludiog y gair ac am i’r darn adlewyrchu’r teimlad mae’r gair yn ei roi i mi.
Wedi cael tegannau synhwyraidd i’m mhlant yn yr un deunydd, penderfynais arbrofi gyda silicon. Roeddwn yn gwybod fod y teimlad yn iawn felly arbrofais gyda siapau a lliwiau. Gwnes bin dau ben mewn arian a rhoi 4 ‘mwydyn’ o silicon, mewn arliw o las/gwyrdd, mewn hydoedd gwhanol arni. Pan fydd y darn ar gau mae’r silicon yn rhedeg i lawr yn berffaith.




All photographs ©Aga Hosking Branding
