Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Hwyl - yn Gymraeg | Lydia Niziblian
top of page

Hwyl

Hwyl oedd y darn hawsaf i’w ddehongli. Mae’n air llachar a sgleiniog sy’n golygu ymdeimlad o hwyl egnïol neu ffarwel. Yn syth, gwelais fel siâp cynffon comed yn arwain i bwynt llachar, yn gwibio o’r chwith i’r dde. Rhaid oedd gwneud hwn mewn aur a penderfynais ei wneud mewn siâp tlws fel bod y siâp yn aros yn union heb unrhyw wrthdyniadau allanol.

Gwnes ddarn prawf gan ddefnyddio gwifren arian oedd yn gymorth i mi i newid ychydig ar y darn gorffenedig. Fe wnes i fflatio’r dyluniad a gorliwio cynffon y gomed ychydig yn y darn gorffenedig.

Torrais y darn diwethaf o ddeilen aur 9ct, gwneud pin o ddur gwrthstaen ar gyfer cryfder a rhoi diemwnt bach ar y pen i amlygu’r pwynt o ddisgleirdeb.

Niziblian: Hwyl Brooch

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page