Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Yn Barod - yn Gymraeg | Lydia Niziblian
top of page

Yn Barod

Mae Yn Barod yn siâp hapus i mi. Gwelais ef yn syth fel ffurf gorfoleddus sy’n ymestyn at i fyny. Gwnai i mi feddwl am ffwngws yn tyfu o lawr y goedwig mewn ffilmiau natur wedi cael eu cyflymu. Sut felly i gymysgu’r disgleirder, trwmpedaidd gyda hynny?

Roedd yr arbrofion cyntaf mewn clai papur a chlai polymer yn anfoddhaol. ‘Dwi’n newydd i gerfio gwêr, ble mae’r darn yn cael ei gerfio mewn gwêr ac wedyn ei gastio mewn metel. Penderfynais wneud “Yn Barod” fel modrwy y byddwn yn ei cherfio mewn gwêr. Roeddwn eisiau gwneud nifer o’r madarch-trwmped o wahanol uchder. Castias dri mewn arian a’u gorffen mewn gwahanol ffyrdd. Gorchuddiais fy ffefryn mewn patina lliwgar, llachar ac wedyn ei sgwrio i ffwrdd. Roedd yn edrych fel hen degan tun neu fodrwy oedd wedi cael ei hanghofio oddi tan y ddaear ac wedi trawsnewid i rhywbeth arall. Mae ymylon y modrwyau hyn wedi cael eu sgleinio i’w hamlygu.

Niziblian: Yn Barod Ring Alt
Niziblian: Yn Barod Ring alt2
Niziblian: Yn Barod Ring

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page