Siâp Geiriau
Daeth y prosiect hwn i fodolaeth yn ystod Haf 2020. Yn allanol, a 100% o'r amser, yn syml iawn, y fi yw y fi yw y fi. Un sy’n chwarae gemau fideo, yn gwneud gemwaith, yn hoffi ffilmiau ffuglen wyddonol ac arswyd yng Nghaerdydd. Rwyf hefyd yn awtistig ac mae gen i anhwylder prosesu synhwyraidd. Mae hyn yn golygu fy mod yn or-sensitif i rai mathau o fewnbwn synhwyraidd, ac yn hyposensitif i eraill. Os ydw i'n sâl neu dan straen, mae'r sensitifrwydd hwn yn dwysáu. Rwy'n or-sensitif i sain. Rwy’n methu hidlo sŵn allan ac yn aml rwy’n 'gweld' seiniau fel siapiau. Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg llafar sylfaenol iawn yn ystod haf cyntaf y Covid, doeddwn i ddim mewn lle da. Dydw i ddim yn ymdopi’n dda â newid ac mae angen i mi gynllunio i aros yn ddigynnwrf. Roedd Covid yn golygu bod fy mharth cysur i wedi diflannu. Roeddwn i’n disgyn. Felly doeddwn i ddim yn synnu’n llwyr fod sain y geiriau Cymraeg newydd (i mi) yn codi ymatebion cignoeth a dwys iawn. Dechreuais i 'weld/teimlo' rhai ohonyn nhw'n gryf iawn, a dechrau meddwl tybed sut byddai'r siapiau hyn yn troi’n ddarnau gemwaith. Arweiniodd hyn at greu'r prosiect Siâp Geiriau.
Nod y prosiect yn fyr fyddai ceisio casglu deg darn o emwaith, bob un yn seiliedig ar fy ymatebion synhwyraidd cychwynnol i wahanol eiriau. Penderfynais na fyddwn yn gwneud dim ymdrech i wneud i'r darnau edrych yn gydlynol ac y byddwn yn arbrofi â deunyddiau gan ffurfio'n rhydd. Byddwn yn cadw blog/dyddiadur yn ystod y broses (fe wnes i, a gallwch ei ddarllen yma ). Byddai'r prosiect yn gorffen ag arddangosfa ffisegol o'r darnau gemwaith gorffenedig yn Oriel Bevan Jones yng Nghaerfyrddin, arddangosfa arall yn Hyb Cyfeiriadur Awtistiaeth yng Nghaerffili, oriel ar-lein ar fy ngwefan i, ynghyd â ffilm fer 'ymweliad ag oriel rithwir' gan Chris Lloyd.
Gan ddibynnu ar Covid, byddaf yn dangos y gwaith ymhellach yn sioe Autism Directory Live ym mis Medi 2021.
Alla i ddim dweud faint rwyf wedi mwynhau'r siwrnai hon, a pheidiwch â theimlo fy mod yn gor-ddweud ei phwysigrwydd i mi yn ystod y cyfnod hwn. Yn llythrennol, mae wedi bod yn achubiaeth greadigol i ddal ati pan na allwn fod yn sicr o ddim byd arall, yn ogystal â rhoi ysbrydoliaeth a chyfeiriad newydd i mi ar gyfer fy ngwaith. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r canlyniadau.
Cliciwch ar unrhyw un o'r 10 delwedd isod i'w gweld yn llawn, a darganfod mwy am bob darn.
Os hoffech gael delweddau cydraniad uchel i'w hatgynhyrchu, anfonwch neges e-bost ataf yn lydia@niziblian.com
Byddwn i wrth fy modd hefyd ag unrhyw adborth neu gwestiynau sydd gennych, anfonwch neges e-bost. Diolch!
Gwawr
Yn Barod
Dechrau
Faint
Gwybod
Hwyl
Llaeth
Llygaid
Pili-pala
Pobol
Diolch yn fawr iawn i Eiryl George, Sarah McCartney , Anita Holford, Richard Williams, Helo Blod & Menai Translation.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Arts Council of Wales & National Lottery.