Pobol
Pobol oedd yr unig ddarn ble gallwn weld y gair yn gwneud y siâp yn fy mhen. Sŵn ‘p’ a ‘b’ yn rhoi teimlad ffrwydrol, tuag allan, i’r gair. Roeddwn am gael llawer o beli bach meddal, o liwiau a maint gwahanol. Gallai hwn drosi i bron unrhyw fath o emwaith. Gan nad wyf yn eu gwneud yn aml, penderfynais fynd am freichled.
Roedd angen sgerbwd cryf felly gwnes freichled arian gyda chlasbin. Wedyn, gwnes llawer iawn, iawn, iawn o beli ffelt bach amryliw. Rhaid oedd cael help llaw fy ngŵr i hyn gan nad wyf yn hoffi’r teilmad o wlân gwlyb. Gwniais y peli o gwmpas y freichled. Mae’n un o’r darnau hynny y gallech ddal i ychwanegu iddo am byth ond nid oeddwn am i’r darn fynd yn rhy drwm. Hoffaf y ffordd mae’r darn ym awgrymu undod ac hefyd arwahanrwydd pobl.
All photographs ©Aga Hosking Branding