Web Analytics Made Easy -
StatCounter
top of page

Pili-Pala

Roedd y gair ‘Pili-pala’ yn gwneud i’m mysedd ddawnsio o flaen fy llygaid gyda theimlad tyner, meddal iddo. Roeddwn am i’r darn gyfuno’r ddau deimlad. Hwn oedd un o’r darnau hawsaf i mi feddwl amdano o ran delweddu’r darn gorffenedig. Ystyriais fodrwy a darnau symudol y gellid eu dal i fyny i ddechrau, ond wedi gwneud darn prawf penderfynais ei wneud fel darn i roi ar y pen. Mae’r gadwyn â dau fachyn fel y gallwch ei addasu. Gellir hefyd ei droi a’i roi o gwmpas y gwddf fel bydd y pili pala yn hongian ar y cefn.

Roeddwn angen rhywbeth digon ysgafn i symud mewn awel. Ystyriais ddefnyddio metel wedi ei guro’n denau ond nid oedd yn iawn. Gorffenais gyda chlai papur wedi ei siapio’n ffurf petalau, tenau. Lliwiais y cefn yn olau a’r ochr isaf mewn paent adlewyrchol. Maent yn dal yn eu lle gyda lein neilon i’w galluogi i symud yn hawdd. Mae’r arian ar y darn pen wedi ei ocsideiddio i wneud yn glir nad hwnnw yw’r canolbwynt, gyda’r pastelau’n darlunio meddalwch y gair, a’r adlewyrchiad yn dal y llygaid gydag unrhyw symudiad.

on.

Niziblian: Pili-pala close up
Niziblian: Pili-Pala Headpiece

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page