Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Gwawr - yn Gymraeg | Lydia Niziblian
top of page

Gwawr

Mae Gwawr yn air mor ‘macho’, metel, sy’n rhuo ond eto’n trosi’n air bregus iawn. I mi, mae’n geg fawr yn ymestyn ac yn rhuo. Roedd yn ddarn anodd i’w gynhyrchu. Gwelais hwn fel brestbladau yn wreiddiol, gan feddwl ei wneud o glai polimer a’i baentio mewn efydd. Roeddwn angen iddo gael dannedd, eisiau rhywbeth i roi cydbwysedd rhwng cryfder y gair a breuder yr ystyr felly penderfynais ar wydr ar gyfer y dannedd. Gwnaethpwyd rhain gan Andrea o Dragon Art Glass. Cefais wneud nifer o’r rhain fel fy mod yn medru chwarae â nhw (a malurio un neu ddau’n ddamweiniol yn y broses wrth gwrs).

Ar ôl ymdrechu gyda chlai polimer mae’n rhaid cyfaddef i fethiant. Nid oeddent yn rhoi y teimlad yr oeddwn yn edrych amdano. Yn y diwedd, es am gynllun cynnil iawn. Genau syml gyda phedwar dant gwydr, dau ym mhob ‘gên’. Rhoddais ar ddarn lledr euraidd meddal a ellir ei roi dros y pen heb ei gau. Dwi’n falch o’r darn yma gan ei fod yn ymgorffori cryfder y gair yn ei siâp a’r breuder yn ei ffurf a’i ddefnyddiau.

Niziblian: Gwawr Neckpiece
Niziblian: Gwawr neckpiece

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page