Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Dechrau - yn Gymraeg | Lydia Niziblian
top of page

Dechrau

Dechrau, yn eironig, oedd y gair cyntaf i mi sylwi arno fel siâp/teimlad. Roedd ganddo deimlad crafllyd fel tafod cath. Gwnai’r sŵn anghysurus i mi feddwl am yr holl bethau oedd yn rhoi y temilad o sŵn ewinedd ar fwrdd du (neu i mi, sŵn ewinedd ar grochenwaith heb eu gwydro.) Yn wreiddiol ystyriais ddefnyddio ffelt nodwydd am fod y teimlad o wrthrychau ffelt yn rhoi yr un teimlad i mi. Ar ôl rhai arbrofion penderfynais ddefnyddio ffelt fel elfen ond nid fel seren y sioe.

Yn y diwedd gwnes gadwyn drom, afreolaidd i’r darn gwddf. Yn fwriadol, rhoddais sylw i’r ffordd y byddai pob dolen yn rhyngweithio gyda’r nesaf. Roeddwn eisiau iddo fod â theimlad o ddigysylltedd. Torrwyd y prif ddarn pren o ffawydd lleol, gan Paul o Isca Woodcrafts. Gofynais iddo dorri darn siâp tafod mawr crwm. Holltais yr arwyneb i roi’r un teimlad â brathu pren loli iâ, cyn ei orffen â farnais. Rhoddais ddeilen aur i’r wyneb a’r ochrau i dynnu sylw i’r gwahaniaeth rhwng y pren garw a llyfn.

Aeth yr agwedd ffelt drwy sawl cam-ddechreuad – gan gynnwys cudynnau ar yr ochr ac yn y blaen, nes i mi benderfynu ar fat o liwiau rwy’n eu casau gyda’i gilydd (brown, rhwd a melyn) oddi tan y pren i gael yr ymdeimlad o ‘siwmper goslyd ar groen’. Arweiniodd rhwystredigaeth ynghylch edrychiad y darn i mi wylltio a rwygo rhywfaint o’r ffelt. Yn hollol ddamweiniol, gwelais yn union sut i’w orffen! Gwthiais wlân rhydd i’r mat gyda nodwydd fel ei fod yn sefyll allan ar bob ongl. Perffaith ar gyfer y teimlad coslyd yr oeddwn eisiau. Er dechrau allan i wneud darn annifyr ac anghydnaws, dwi’n caru’r ffordd mae’r gadwyn orffenedig yn edrych.

Niziblian: Dechrau Neckpiece
Niziblian: Dechrau close up

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Niziblian: Dechrau close up 2
Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page