Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Llaeth - yn Gymraeg | Lydia Niziblian
top of page

Llaeth

Mae Llaeth yn air oer, addfwyn, sidanaidd. Mae’n air cysglyd a chyfforddus. Roeddwn eisiau gwneud darn llyfn, sidanaidd, crwm i adleisio hynny. Roeddwn angen elfen ychwanegol i bwysleisio’r natur cysurus felly penderfynais roi perarogl arno. Mae perarogl yn hanfodol bwysig i mi ac yn effeithio’n sylweddol ar fy hwyliau a’n nghysurdeb.

Ffurfiais gromen fawr o arian cain a thorri cromlin o’r brig. Cafodd hwn ei sodro ar sylfaen fflat a rhoddais resi o dyllau ynddo (mae hwn yn fy atgoffa o’r ffordd y byddai’n gweld grid o ddotiau pan fyddai yn cau fy llygaid i gysgu). Ar ôl ei lenwi a’i orffen roedd gen i lestr bas, hemisfferaidd a gafodd orffeniad sidanaidd.

Gwniais sidan sari wedi’i liwio’n naturiol oedd wedi’i adfer, a, gyda chyngor gan fy ffrind, y peraroglydd anhygoel Sarah McCartney, llenwais ef gyda gwlân amrwd defaid Cymreig wedi ei olchi. Gellir ei drwytho gyda phersawr ac fe arhosith yr arogl ynddo. Y persawr a ddewisais oedd persawr fanila gan gwmni ‘1460 Tuesdays’ Sarah. Trwy wisgo’r tlws Llaeth ar y croen, bydd yn cynhesu, gan ryddhau’r arogl. Mae arogl fanila yn gallu achosi rhyddhau endorffinau, felly mae’n arogl perffaith i’r darn. Mae holl ymdeimlad y darn i mi yn un o gwtch tyner a chysurlon.

Niziblian: Llaeth Pendant
Niziblian: Llaeth 2
Niziblian: Llaeth Pendant Close Up
Niziblian: Llaeth pendant 3

All photographs  ©Aga Hosking Branding

Lottery funding strip landscape colour.j
bottom of page