Gwybod
Mae Gwybod yn air sydd yn hwyl i’w ddweud. Yn syth, gwelais siâp ar ffurf cwdyn gyda cheg. Teimlai’n arswydus i mi, ychydig yn sinistr. Roeddwn yn gwybod y byddai’n rhaid castio’r darn hwn gan fy mod am iddo fod yn wydn (metel), yn 3 dimensiwn ac i edrych ychydig yn organig. Roeddwn angen siâp fel ŵy felly dechreuais gydag ŵy sofliar gwag. Chwythais yr ŵy allan ac wedyn ei drochi dro ar ôl tro mewn gwêr gemydd. Gorffenais gydag ŵy iâr ar ffurf tebyg i aliwn yn diferu. Treuliais ddiwrnod hapus yn naddu’r gwêr gyda chyllell fain gan fy mod angen iddo fod yn ddigon ysgafn i’w gastio mewn metel. Torrais geg ynddo a’i gerfio i edrych yn debyg i wefys. Sgwriais yr arwyneb gyda brwsh gwifren i roi cyferbyniad mewn gwead. Penderfynais ar dlws crog hir gan fy mod eisiau teimlad arswydus, talismanaidd iddo.
Tra’n torri tyllau i roi’r gadwyn trwodd meddyliais y byddai’n hwyl cael ychwanegiadau opsiynol er mwyn gallu newid yr ystyr. Felly rhoddais dwll ychwanegol. Castiais un mewn arian a rhai mewn pres fel y gallwn arbrofi a rhoi gorffeniadau gwahanol iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys ocsideiddio, llewyrch, du tywyll a phatina. Yn y diwedd rhoddais orffeniad wedi’i ocsideiddio i’r darn arian. Y tu mewn, rhoddais liw disglair yn y pigment tywyll sydd yn rhoi’r ymdeimlad iasol perffaith. Mae darn i’w ychwanegu o’r enw ‘dim’ sy’n cuddio’r twll ac yn newid yr ystyr i ‘gwybod dim’. Mae darn arall gyda phelen ffelt enfys streipiog sydd â’r enw ‘popeth’ gan newid yr ystyr i ‘gwybod popeth’.
All photographs ©Aga Hosking Branding